Golygathon y Wicipedia Cymraeg 2012
24 Gorffennaf 2012 2 o Sylwadau
Ar dydd Sadwrn y 30ain o Fehefin, cynhaliwyd Golygathon (Editathon yn Saesneg) yn Llyfrgell Ganol Caerdydd. Yr wythnos blaenorol, roedd gŵyl Tafwyl newydd gael ei chynnal yn y ddinas, a meddyliais byddai’ n syniad da cyfuno digwyddiad Wicipedia gyda gŵyl Gymraeg, yn debyg i olygathon y Wici Basgeg a gynhaliwyd i gyd fynd a Ffair Lyfrau a Recordiau Durango 2011.
Hwn oedd y digwyddiad ‘yn y cnawd’ cyntaf o olygwyr y Wicipedia Cymraeg, er i’r Wicipedia ei hun fod mewn bodolaeth ers 2006.
Daeth 8 o bobl draw i Ystafell TGC y llyfrgell yn ystod y dydd, rhai am y dydd cyfan, eraill am rhyw awren, ac fe ymunodd 7 golygwr arall yn yr hwyl, ond o flaen eu cyfrifiaduron ym mhedwar ban byd! O’r rhai ddaeth i’r llyfrgell, roedd pedwar yn olygwyr rheolaidd, un yn golygu’n achlysurol, dau yn olygwyr ar y Wiciepdai Saesneg, ond ddim wedi bod a’r hyder i olygu’n Gymraeg o’r blaen, ac un gyda dim profiad o olygu o’r blaen.
O ran y golygu, doedd 13 erthygl newydd, ac 17 erthygl wedi eu gwella ddim cymaint ag oeddwn wedi disgwyl, ond prif lwyddiant y dydd oedd y cymdeithasu a’r trafod dros ginio.
Hoffwn ddiolch i staff Llyfrgell Ganolog Caerdyddd am eu cefnogaeth, yn arbennig Steve am roi cyflwyniad i ni o gynnwys yr adran Astudiaethau Lleol, Carole am y trefnu ac i Kate am ei chymorth wrth ddod o hyd i ddeunydd darllen perthnasol i ni. Diolch hefyd i Wikimedia UK am noddi’r cinio.
Hysbysiad Cyfeirio: Wicipedia Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol « Y Wicipedia Cymraeg
Hysbysiad Cyfeirio: Wicipedia Cymraeg yn Eisteddfod Genedlaethol 2012 | Cymdeithas Wici Cymru