Ariannu’r Wicipedia Cymraeg yn uniongyrchol.
14 Tachwedd 2011 5 o Sylwadau
Pob hyn a hyn, mae hysbyseb yn ymddangos ar dudalen flaen y Wicipedia ar gyfer apêl codi arian tuag at Sefydliad Wikimedia, y cwmni/elusen sy’n cynnal holl brosiectau wici, gan gynnwys y Wicipedia Cymraeg (a’r prosiectau Cymraeg eraill llai adnabyddus).
Dyma Rhodri’n gofyn cwestiwn diddorol:
https://twitter.com/#!/Nwdls/status/136044317813899264
Dw i ddim yn meddwl y gellir ariannu’r Wicipedia Cymraeg yn uniongyrchol, yn bennaf gan nad yw ond yn bodoli fel gwefan – does dim ‘pwyllgor’ (anghyffredin i ni Gymry!), cyfansoddiad, nac felly gyfrif banc.
Rhai pwyntiau:
- Does gan Y Wicipedia Cymraeg ei hun ddim costau cynnal, gan mai Sefydliad Wikimedia sy’n gyfrifol am y llety. Felly mae unrhyw gyfraniad tuag at y Sefydliad Wikimedia yn helpu i gadw’r Wicipedia Cymraeg arlein.
- Mae canghennau ‘lleol’ o’r Sefydliad Wikimedia yn bodoli mewn sawl gwlad ar lefel gwladwriaethau sofran, gan gynnwys y Deyrnas Gyfunol. Mae Wikimedia UK yn endid annibynnol sydd wedi ei gofrestru fel elusen, sydd a bwrdd rheoli ac sy’n cyhoeddi ei gyfrifon. Er tegwch, maent yn ymwybodol o wahaniaethau ieithyddol y DG ac wedi cynnig cymorth arianol ac ymarferol i’r Wikipedia Cymraeg yn y gorffennol. (Noder hefyd, mae ymgais i sefydlu Cangen Wikimedia Cataleneg, ar sail iaith a siaredir o fewn 3 neu 4 (?) gwladwriaeth – mwy am hyn eto)
Wrth gwrs, gall unrhyw un gyfrannu tuag at gostau cynhyrchu unrhyw ddeunydd hyrwyddo, neu noddi/ariannu digwyddiad fel sesiwn hyfforddi/creu cynnwys (llogi ystafell, offer a thalu treuliau mynychwyr).
Hefyd, mae son bod Llywodraeth Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg am dalu cwmni/sefydliad (drwy dendr)i gyfrannu cynnwys at y Wikipedia Basgeg.
Hefyd:
Wikimedia Galiza? http://gl.wikipedia.org/wiki/Wikipedia:Wikimedia_Galiza
Wikimedia Quebec? http://meta.wikimedia.org/wiki/Wikimédia_Québec
Cwpwl o achosion prawf ar gyfer Pennodau an-wladwriaethol.
Ond mae na precedent beth bynnag am fod yr UDA yn cael gwneud eu rheolau eu hunain ar y mater: http://meta.wikimedia.org/wiki/Wikimedia_United_States_Chapters_Council
Dyma’r canllaw gam-wrth-gam ar sut i ddechrau Pennod: http://meta.wikimedia.org/wiki/Step-by-step_chapter_creation_guide
Hwn yn ddiddorol yn yr FAQ:
http://meta.wikimedia.org/wiki/Local_chapter_FAQ#What_is_the_point_of_having_chapters.3F
Ydi’r we yn rhydd go-iawn neu ydyn ni ddim ond yn rhydd i weithredu o fewn fframweithiau daearyddol a ieithyddol ar lefel gwladwriaeth?
Os taw un o’r rhesymau dros sefydlu grwp lleol WikiMedia ydi i leoleiddio’r drafodaeth yn ieithyddol a diwylliannol yna mae’n rhaid iddyn nhw dderbyn y byddai sefydlu grwp Catalaneg/Basgeg ayyb yn helpu eu hachos cyffredinol.
Wedi dweud hyn i gyd dwi’n ffeindio Wikimedia a Jimmy Wales chydig yn creepy a faswn i ddim isio ffurfio grwp Cymreig. Mae’r agwedd sefydliadol tuag at wledydd di-wladwriaeth ond cadarnhau rhai o’n ofnau i.
Mae’r blog yn syniad da
Dw i wedi tanysgrifio
Felly mae cynsail wedi ei greuyn UDA yn barod.
These chapters, unlike existing chapters in other nations, may be founded on a metropolitan and regional-scale level, because of the unique issues of uneven population density throughout the country, and the relative unimportance of state boundary lines.
Tydy dosbarthiad poblogaeth na diffyg pwysigrwydd ffiniau gwladwriaethiol (yntai talieithol maen nhw’n feddwl?) ddim y unigryw i UDA o gwbl.
..the local chapter should not be based on only one language, but include interested people from the different official languages.
Mae ychydig o obsesiwn gyda pethau swyddogol gyda nhw, ac mae nhw’n ymddangos yn fiwrocratiadd dros ben.
Dweud y gwir, does dim yn ein rhwystro rhag sefydlu chapter Cymraeg y funud hon, mond na fyddai’n derbyn sél bendith na chydnabyddiaeth MediaWiki.
Un rhwystr arall ydy bod y mwyafrif llethol o gyfranwyr rheolaidd a gweinyddwyr y Wicipedia Cymraeg yn bobl breifat ofnadwy, yn cyfranu’n anhybys, a ddim yn cwrdd oddi arlein (falle am resyma da!). Byddai hyn yn rhwystr i sefydlu chapter, gan y byddai angen gwybod enwau iawn pobl.
Mae un o aelodau (blaenllaw?) MediaWiki UK wedi son fel y byddia’n hoffi sefydlu cangen Cymreig/lleol i Gaerdydd o MediaWiki UK (er mond mewn manau sydd heb Chaper ‘genedlaethol’ dylai hyn ddigwydd yn ol y canllawiau). Fo sy wedi bod yn gwrthio’r ochr Gymraeg i ryw raddau, ond efallai (ac nid mewn ffordd gas) roedd dan yr argraff y byddai Llywodraeth y Cynulliad yn pwmpio lot o arian mewn yn syth gan ei fod yn y Gymraeg!
Yn eu hadroddiad mis Awst 2011, roeddynt yn crybwyll trefnu digwyddiad Cymraeg yng Nghaerdydd, ond does dim cyswllt wedi bod gyda’r Wikipedia Cymraeg.
So, i fynd yn ol at y post gwreiddiol, oedd gyda ti unrhyw gyllid penodol menw golwg, neu at unrhwy weithgaredd arbennig o fewn y Wicipedia Cymraeg?
Ac o’r sylwadau, wyt ti’n meddlw bod angen sefydlu rhwy chapter Cymraeg ar gyfer Wikimedia/Wikimedia UK? Hefyd oes galw amdano?
Dwi’n meddwl baswn i’n fwy bodlon cyfrannu arian tuag at Wicipedia pe bai na gangen Gymraeg. Dwi erioed wedi rhoi, er dwi yn ystyried gan fy mod yn gwneud dipyn o ddefnydd ohono. Ond fel dwi di deud, ma’r pledio am arian sydd â thinc sectaidd iddyn nhw yn eu cri am ryddhau pob gwybodaeth yn rhoi’r crud i fi braidd.
Dwi ddim yn rhan o gymuned Wicipedia na Wikipedia felly allwn i ddim dweud unrhywbeth am alw i sefydlu chapter Cymraeg, ond mi fuaswn i’n hapus o weld y Gymraeg yn cael ei chynrychioli’n well yno. Efallai byddai’n fodd o hyrwyddo ysgrifennu erthyglau newydd, er dwi ddim wir yn credu gyda pholisiau derbyn aneglur Wikipedia y byddwn yn argymell hynny chwaith.
Dwi’n anfodlon sgwennu erthyglau Wicipedia gan nad ydw i eisiau i erthygl gael ei wrthod na chwaith ei addasu er gwaeth pe bawn wedi treulio llawer o amser arno (cefais fy mlocio unwaith yn ddi-rybudd am geisio sgwennu erthygl oedd yn erbyn y rheolau, er fy mod wedi torri’r rheol yn gwbl ddiniwed a thrwy anwybodaeth).