Cystadleuaeth Logo Wici Cymru
18 Mawrth 2013 Gadael sylw
Mae Cymdeithas Wici Cymru yn chwilio am logo.
Ni allwn ddefnyddio logo Wicipedia a Wikimedia (y ddau isod) gan y byddai hyn yn annibynol o’r ddau sefydliad, ond gallwn ddefnyddio’u amryw logos fel ysbyrdoliaeth ac o ran naws ac arddull – er mwyn pwysleisio’r cysylltiad sydd rhyngom, yn enwedig yn ein hamcanion.
Sbiwch ar logos prosiectau cymunedol WikiMedia ar gyfer syniadau, sy’n addasiadau o’r logo canlynol:
WikiAfrica – (beth am rhywbeth tebyg, gyda map o Gymru gyda rhai nodwedidon darn jig-so?)
Amical Viquipèdia/Cymdeithas Cyfeillion y Wikipedia Catalaneg (fel ni, dyma gorff annibynol – dw i’n hoffi ei symlrwydd)
Anghenion:
-Y ffeil ansawdd uchel ar ffurf .svg
-Mewn dim mwy na thri lliw
-Bydd angen fersiswn delwedd yn unig, a rhai gyda enw’r Gymdeithas odditano/i’r ochr
-Bydd eisia fersiwn du a gwyn
-Bydd y delwedd yn y parth cyhoeddus neu o dan drwydded CC-BY-SA (bydd enw’r sawl a greodd – a dolen at eu gwefan os dymunir – o gopi gwreiddiol y logo wrth iddo gael ei uwchlwytho)